<< <  Page 19 of 19

May 18, 2011



Hyfforddwyr

Proffil Hyfforddwr: Kevin Hamilton

Mae Kevin wedi bod yn ymwneud â thriathlon ers 15 mlynedd, ac roedd yn un o sefydlwyr Clwb Triathlon Cerist. Bu’n rhan o dimau Cymru a Phrydain am flynyddoedd, gan gystadlu mewn tair Pencampwriaeth y Byd – 1999, 2000 a 2002, Pencampwriaethau Ewrop 2005 ac yn aelod o Garfan Cymru yng nghystadlaethau Prydain 2003 a 2004. Mae ei frwdfrydedd dros y gamp yn heintus, gan gyfrannu’n helaeth at y cynnydd yn y nifer sy’n cymryd rhan mewn Triathlon yn yr ardal.

Llwyddiant

Pencampwriaethau’r Byd 1999 ym Montreal – 2il yn y cat 35-39

Triathlon Sprint Cymru – 3ydd 1998, 3ydd 2003

Enillydd Grand Prix Cymru 1998

Pellter Olympaidd Cymru – 2il 1998 a 3ydd 2000.

Aquathlon – Pencampwriaethau Prydain 2003 – 2il (cat 35-39)

Pellter Olympaidd – 2 awr a 6 munud.

Pellter Sprint – 59 munud a 57 eiliad

Ironman 70.3 – 4 awr a 45 munud.

Gwobrau Chwaraeon Sir Drefaldwyn: Enwebwyd yn 2008/9 am lwyddiant arbennig a chyfraniad tuag at chwaraeon.

Campau’r Ddraig: enwebiad am wirfoddolwr y flwyddyn 2007 ac enillydd 2008

Cymwysterau Proffesiynol a Hyfforddi

Corff Llywodraethol

Lefel

Prifysgol Cymru

2003

BA(Anrh) a TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

Triathlon Prydain 2007

Hyfforddwr Lefel 2

OCR (Oxford and Cambridge RSA) 2008

Hyfforddwr Ystafell Ffitrwydd Lefel 2 (ymarfer a ffitrwydd, anatomi a ffisioleg)

Pulse Fitness 2005

Hyfforddwr Seiclo Grwp

VT Training 2010

Hyfforddwr Ymarfer Cylched Lefel 2

HeartStart

Cynnal Bywyd mewn Argyfwng

Sports Coach UK 2010

Amddiffyn Plant

Yswiriant

Yswiriant trwy’r BTF ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus i hyfforddwyr ffitrwydd - £5m (safon y diwydiant)

Sesiynau cynefino a chynlluniau hyfforddi penodol ar gael yn addas ar gyfer eich anghenion


Proffil Hyfforddwr: Kim Brett

Gorffennodd Kim ei thriathlon cyntaf yn 1999, ac yna cafodd egwyl hir tan iddi ymuno â chlwb Cerist yn 2006. Gyda chefndir ym maes hyfforddi ffitrwydd yn mynd yn ôl bron i 15 mlynedd, roedd wrth ei bodd yn cael dod yn rhan o’r tîm hyfforddi. Mae’n awyddus i helpu pobl o bob gallu i gymryd rhan mewn Triathlon ac i wella eu hiechyd a’u ffitrwydd ar bob lefel, trwy ystod eang o ddulliau hyfforddi ac ymwybyddiaeth o faeth. Mae Kim yn astudio i fod yn Hyfforddwr Personol ar hyn o bryd. Mae ei chymwysterau presennol yn caniatáu iddi gymryd sesiynau ymarfer cylched, ymarfer turbo, sesiynau nofio yn y pwll yn niwrnodau hyfforddi’r clwb a sesiynau rhedeg grŵp a sesiynau beic sydd ddim ar ffyrdd cyhoeddus. Mae Kim hefyd yn cynnig cyngor a dadansoddiad maeth.

Cymwysterau Hyfforddi

Corff Llywodraethu

Lefel

Ffederasiwn Triathlon Prydain

Hyfforddwr Lefel 1 nofio, seiclo, rhedeg (2009)

Register of Exercise Professionals (Reps) level 2 Active Training

RSA ymarfer i gerddoriaeth (1996)

Erobeg Step (1996)

Aqua fit (1996)

Hyfforddwr Ystafell Ffitrwydd (1996)

Ymarfer Cardiofasgwlaidd ac Ymwrthedd (cylched) (1996)

Profi Ffitrwydd (1996)

Reps level 2 Lifetime Fitness

Seiclo Stiwdio (2010)

Maeth/rheoli pwysau (2010)

Hyfforddwr ystafell ffitrwydd a hyfforddwr personol uwch – (ar waith)

Yswiriant

Yswiriant trwy’r BTF ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus i hyfforddwyr ffitrwydd - £5m (safon y diwydiant)

Rhaglenni hyfforddi personol, maeth a rheoli pwysau ar gael ar gais