Categories: Newyddion
      Date: Sep  9, 2013
     Title: Dylan yn rasio yn Llundain

Ar fore Gwener y 13eg o Fedi, bydd Dylan Jones yn paratoi i neidio i mewn i lyn y Serpentine yn Hyde Park i gystadlu ym Mhencampwriaeth Triathlon y Byd ar gyfer y pellter sprint yn Llundain.

Llwyddodd Dylan i ennill ei le yn y ras wedi iddo gystadlu mewn triathlon yn Llandudno yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae’r cwrs y bydd yn rasio arno yn debyg iawn i’r un y bydd y Cystadleuwyr Elite yn ei ddefnyddio yn ddiweddarach yn y penwythnos, felly efallai bydd cyfle iddo roi tip neu ddau i Non Stanford a’r Brownlees, neu o leiaf gynhesu’r dwr ar eu cyfer.

Felly cofiwch edrych allan am y canlyniadau ar y 13eg, ac am hanes ei ras yma ar wefan Clwb Triathlon Cerist.

Pob lwc Dylan!!