Categories: Newyddion
      Date: Sep 13, 2011
     Title: Triathlon Nantwich
Llongyfarchiadau i Bethan am ei ras yn Nhriathlon Hwyl Nantwich. Dyma ei hadroddiad ras.

Ar ôl mynd i ymarfer cylched nôl a mlaen am flwyddyn neud ddwy, penderfynais gymryd yr her a chymryd rhan yn aquathlon olaf 2010. Roedd y gymysgedd o’r nerfau ofnadwy a’r adrenalin ar ôl y ras yn ddigon o sicrhau y byddwn yn cymryd rhan yn nhriathlon Cerist ym mis Mehefin.

Wrth bori trwy’r we un diwrnod, sylwais fod triathlon hwyl yn cael ei gynnal yn Nantwich ym mis May, nofio 200m, beicio 20k a rhedeg 2.5k – y pellter perffaith i fi roi tro ar fy nhriathlon cyntaf. Hefyd, roedd y ffaith na fyddai neb yn fy adnabod yn help, ac os byddwn i’n codi cywilydd arnaf i fy hun, fyddai neb yn gwybod!

Ar ôl gorffen y triathlon hwyl (a mwynhau pob munud) cofrestrais ar gyfer yr un ras ym mis Medi. Ffordd wych o fesur cynnydd dros yr haf. Erbyn Medi 2010 roeddwn 2 funud yn gynt, ac roedd bachyn triathlon wedi cydio.

Ar ôl cwblhau’r tri aquathlon yn 2011, roeddwn am fynd i Nantwich eto i fesur cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Ond doedd mis o farbeciws a diogi ar draethau Awstralia mo’r paratoad gorau, neu oedd o!!?? Gorffennais mewn 1 awr 3 munud, oedd 4 munud yn gynt nad amser Mai 2010, ac roeddwn yn 2il yn fy nghategori ac 5ed i gyd allan o 67 cystadleuydd.

Doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i am fynd yn ôl eto i ras mis Medi, gan fy mod yn ystyried rhoi tro ar rasys eraill am newid. Ond wythnos cyn y dyddiad cau, penderfynais gofrestru. Roeddwn wedi anafu fy mhen-glin wythnos neu ddwy yn gynt, ac felly ddim yn debygol o wella ar amser mis Mai.

Doeddwn i ddim hanner mor nerfus y tro hwn. Roeddwn yn teimlo’n gysurus ac yn meddwl y byddwn yn mwynhau triathlon olaf y tymor, beth bynnag fyddai fy amser. Aeth y nofio ddim fel oeddwn i wedi bwriadu, yn styc y tu ôl i gystadleuydd arall, ac yn gorfod ymladd i fynd allan i’r pwll, ac wedyn cefais drafferth yn gwisgo fy nhrenyrs yn yr ardal newid, a bron i fi gwympo oddi ar fy meic wrth geisio mynd arno!!

Ar y cwrs beics, llwyddais i setlo i mewn i’r reid yn eithaf cyflym, ac roeddwn yn teimlo’n dda. Wrth orffen y beicio a dechrau rhedeg, roeddwn yn poeni sut fyddai fy nghoesau’n teimlo, ond roeddwn yn teimlo’n dda diolch i sesiynau ymarfer Kev ar nos Fawrth! Roeddwn yn ymwybodol o’r amser ar fy oriawr, ac roeddwn yn gwybod fod fy amser ar y beic yn well na mis Mai – cadw i fynd oedd angen! Roeddwn i eisiau gorffen o fewn yr awr, ac wrth agosáu at y lap olaf, roeddwn yn gwybod y byddai’n agos. Ceisiais gyflymu, gan wthio o ddifrif yn hanner olaf y lap. Ond, doedd o ddim cweit digon – Amser gorffen – 1 awr 1 funud!! Ceisiais beidio bod yn siomedig, gan fy mod 4 munud yn gynt na Medi 2010.

Wrth aros am y cyflwyniadau, roeddwn yn meddwl tybed beth oed yr amser cyflymaf, i weld faint fyddai angen i fi wella erbyn y flwyddyn nesaf. Doeddwn i’n sicr ddim yn disgwyl clywed fy enw fel enillydd fy nghategori, ac yn ail i gyd allan o 60 cystadleuydd!!!

Rydw i mor falch fy mod wedi rhoi tro ar fy aquathlon cyntaf yn 2010, gan fy mod wedi gwneud nifer o ffrindiau newydd a chanfod camp rwy’n ei charu. Mae’r gefnogaeth gan Kev a Kim a chriw Cerist i gyd yn wych.