Categories: Newyddion
      Date: Sep  6, 2011
     Title: Dylan yn Rasio’r Trên

Llongyfarchiadau Dylan gan bawb yng Nghlwb Triathlon Cerist!



Tywydd gwlyb a gwyntog oedd i groesawu’r 1600 o redwyr a gyrhaeddodd i Dywyn ar gyfer gwahanol gystadlaethau “Race the Train”.

Roeddwn i yno ar gyfer ras ola’r dydd, sef yr Her Rotari 14 milltir.

Gwasgodd 970 o redwyr at y llinell gychwyn, gyda phawb am fod ar y blaen i gael y dechrau gorau posibl. Gweithiais fy ffordd mor agos i’r blaen ag y gallwn, ac aros yn nerfus am y chwiban y trên i gael cychwyn rhedeg. Canodd y chwiban am 2.05 ac i ffwrdd â ni. Roedd cychwyn i lawr y rhiw yn golygu cychwyn cyflym, a llwyddais i basio ambell un wrth geisio mynd mor agos ag y gallwn i’r blaen.

Roeddwn wedi rhoi tro arni y llynedd, ac roeddwn braidd yn siomedig gyda fy mherfformiad, er i mi guro’r trên yn hwylus. Felly roeddwn yn gobeithio cael gwell amser a safle na 1 awr 41 munud a 93ydd yn y rhestr. Dyna’r hyn oedd gen i i’w guro yn fy meddwl.

Rhedodd pawb trwy stryd fawr Tywyn, ac roedd y gefnogaeth yn wych. Roeddwn yn rhedeg ar gyflymder o 6 munud y filltir am y 3 milltir nesaf, tan iddi ddechrau troi’n fwy o ras traws gwlad, wrth i’r tirwedd fynd yn fwy anwastad a llithrig. Penderfynais wisgo fy esgidiau rhedeg mynydd, gan fy mod yn gwybod y byddai’r llwybr yn llithrig, a gyda’r holl dywydd gwlyb, roeddwn yn hapus i mi wneud y penderfyniad iawn. Am y 4 milltir nesaf, ceisiais ymlacio a chadw fy egni, gan fy mod yn gwybod y byddai’r saith milltir olaf yn llawer caletach na’r saith gyntaf. Cyrhaeddais y man troi’n ôl gyda rhwng 30 a 40 o fy mlaen. Roeddwn yn dal yn teimlo’n ffres, ac yn hapus gyda fy safle.

Ar y rhiw serth nesaf, gwnes ymdrech i fynd heibio ambell un, gan wybod na fyddai lle i fynd heibio neb am y filltir nesaf. Hwn oedd y lle i fi wneud ymdrech, gan y byddai fy esgidiau mynydd yn gafael yn y llwybr defaid llithrig. Daliais grwp o tua phump o bobl, a rhoddodd y ffordd fer gyfle i mi fynd heibio cyn mynd lawr y llethr serth a llithrig, lle’r oeddwn yn gwybod y gallwn agor ychydig o fwlch. Edrychais yn ôl wrth ddringo’r llethr nesaf o Ddolgoch a gallwn weld bwlch mawr y tu ôl i mi, felly roeddwn yn hapus. Roeddwn yn dechrau blino erbyn hynny, ond roeddwn yn gwybod fod angen gwthio’n galed. Gyda 3 milltir i fynd, edrychais ar fy oriawr, a gweld fod gennyf 18 munud i geisio bod yn gynt na 1 awr 35 munud. Edrychais yn ôl a gweld nad oedd y grwp yn fy nal, felly gwthiais ymlaen. Gyda milltir i fynd, roeddwn yn gwybod fod gen i lai na 6 munud i gyrraedd cyn yr amser hwnnw, ac wrth i un o’r dynion o’r grwp fynd heibio, ceisiais fy ngorau i aros ar ei ysgwydd. Gyda 500 medr i fynd, roedd o wedi agor bwlch o tua 10 eiliaid, felly rhoddais i fyny ar geisio ei ddal. Erbyn hynny, roeddwn wedi blino’n lân, ond gyda 50 medr i fynd, llwyddais i sbrintio i fyny’r rhiw i orffen!

Stopiais y cloc ar 1 awr 34 munud a 45eiliad, gan orffen yn y 32fed safle. Roeddwn yn hapus iawn, yn flinedig iawn, yn stiff iawn ac yn oeri mwy a mwy gan nad oedd y glaw a’r gwynt wedi peidio am y ras gyfan. Erbyn hyn, rwy’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, ac am fynd yn gynt na 1.30.