Categories: Newyddion
      Date: Jun  7, 2011
     Title: ‘Slatemen’ Cerist!

Triathlon Slateman – 22 Mai 2011



Ar ôl ambell ddiwrnod gwlyb a gwyntog yn arwain at yr ras, roeddem yn ddigon pryderus wrth ddechrau ar ein taith. Wrth gyrraedd Brithdir, daeth y glaw, a daeth y cwestiwn “Pam ddiawl bo fi’n gwneud hyn” i’r meddwl (a dwi’n ddigon siŵr fod llawer o rai eraill wedi meddwl yr un peth).

Ond erbyn cyrraedd Llanberis roedd pethau’n edrych yn well, ond yn dal yn ddigon gwyntog. Mae’n debyg fod y criw wedi cael dipyn o drafferth yn paratoi’r cwrs ar y dydd Sadwrn, gyda’r bwiau yn y llyn a’r ffensys yn cael eu chwythu i bob man.

Ar ôl cofrestru, aethom ati i baratoi, a chael popeth yn barod ar gyfer dechrau’r ras. Nofio 750m yn Llyn Padarn. Profodd y nofio’n ddigon cyfforddus, gyda’r dŵr yn llonydd, a ddim yn rhy oer. Ar ôl rhibyn hir i’r ardal newid, a hwyl yn trio tynnu’r ‘wetsuit’ roeddem yn barod i ddringo i Ben-y-Pass. Profodd hyn ychydig yn haws na’r disgwyl, ond mae’n siŵr i Owain fynd heibio’n gyflym, achos doedd yr un ohonom wedi deall ei fod wedi mynd heibio. A minnau’n gwthio mlaen trwy’r ras yn meddwl y byddai’r !!!! yn siŵr o fy nal wrth redeg, ac yntau’n meddwl fy mod i’n dal o’i flaen. Cafodd Bedwyr hwyl da iawn ar y nofio, ond cymerodd yn rhy hir i fwyta ar ôl y troad tuag at Gapel Curig, a llwyddais innau i fanteisio ar y cyfle. Roedd yn rhaid i mi gadw o’i flaen ar ôl hynny, ond roedd gwybod nad oedd o’n bell y tu ôl i mi’n help i gadw i ganolbwyntio. Roedd y gwynt yn ein wynebau wrth ddringo o Gapel Curig ac wrth ddisgyn tuag at Fethesda yn aruthrol. Byddai’n well gen i daclo Pen-y-Pass unrhyw ddiwrnod. Ar ôl gorffen y seiclo, rhaid oedd dechrau meddwl am redeg. Ar ôl rhan wastad o flaen Gorsaf Drydan Dinorwig, roedd y dringo’n dechrau. Ar ôl mynd yn ôl ac ymlaen, ac yn ôl ac ymlaen, ac yn ôl ac ymlaen eto, cyrhaeddom y top. Ac ar ôl disgyn yn gyflym trwy’r coed, daeth y rhan gwlyb a llithrig y soniwyd wrthym cyn y ras. Ond ar ôl dringo am y tro olaf i fyny cyfres o risiau, cawsom redeg i lawr y rhiw tuag at y diwedd. Gwych! Roedd y gefnogaeth gan Alwena, Jeremy, Kim, Dylan a Delyth wrth y llinell derfyn yn arbennig. Roeddwn i wedi hanner disgwyl y byddai Owain yno, ond roedd yna hanner gobaith yng nghefn fy mhen tan i mi ei weld yno o ‘mlaen. Croesodd Bedwyr y llinell derfyn ychydig wedyn yn edrych braidd yn llwyd gan yngan geiriau y byddai’n well peidio eu hailadrodd, ond roeddwn yn deall y ffordd roedd yn teimlo’n iawn. Roedd John Taylor hefyd wedi mwynhau nofio mewn tîm cyfnewid. Ei gyhoeddiad gwreiddiol o ei fod wedi cofrestru ar gyfer y ?????MAN  oedd wedi rhoi’r syniad i’r tri ohonom ni roi tro arni. Wedyn dyna ni John. Dy fai di yw’r cwbl!

Fyddwn i’n ei wneud eto? Byddwn, yn sicr. Triathlon mewn lleoliad gwych, yn cynnig her wirioneddol.

Owain – 3.05.29 50fed yn ei Gategori. 82ain i gyd

Arwel – 3.21.34  6ed yn ei Gategori. 152fed i gyd

Bedwyr – 3.31.23  102il yn ei Gategori. 196ed i gyd