Categories: Newyddion
      Date: May 18, 2011
     Title: Triathlon Harlech

Adroddiad ras Dylan Jones - Triathlon Harlech



Tywydd gwlyb a gwyntog oedd yn croesawu’r 337 o bobl oedd wedi cyrraedd i gystadlu yn 10fed Treathlon Harlech. Ar ôl derbyn fy rhif a thrio rhoi’r sticeri rhif ar y beic a’i ffrâm yn wlyb mi es i roi'r beic i mewn i’r 'Transition' a sortio fy sgidiau beicio, sgidiau rhedeg, belt rhif, helmet a fy Oakleys holl bwysig, roeddwn yn barod i ddechre ar ôl chydig o sbrintiau i fyny a lawr y caeau pêl-droed lle roedden wedi parcio, ac roedd yr amser wedi dod i fynd i'r ‘brief’ cyn y ras.

Rhestr mor hir â’ch braich o reolau yn ddiweddarach, roeddwn yn barod i fynd i sefyll yn y llinell a disgwyl am fy nhro i ddechrau. Tra'n disgwyl, sylwais mod i wedi anghofio y gogls yn fy mag, ond yn lwcus i mi, roedd dad yn yr ystafell newid, a ddaru o redeg i’w nôl heb i mi golli lle yn y llinell. Chydig o gynhesu fy ysgwyddau, ac roedd hi yn amser fi i nofio. Pwll 25 metr o hyd ac roeddwn yn gorfod nofio yn erbyn y cloc. Pasiodd y nofio yn ddiffwdan er i mi sylwi bod Bedwyr Fychan wedi dod fewn i’r un rhes a fi tua hanner ffordd trwy fy 400 medr ac roedd y ras ymlaen i drio ei ddal cyn i fi orffen. Yn y diwedd roedd Beds yn nofio yn rhy gryf a methes i ei ddal!!! Ar ôl gorffen y nofio mewn 6.55 - record bersonol newydd fi - roedd yna ras wedyn trwy goridorau’r pwll a lawr y stepiau concrid i’r ‘Transition’.

30km o seiclo oedd yn fy nisgwyl i rŵan. Tra'n trio gwisgo fy helmet a fy sgidiau a fy melt rhif, roeddwn i yn dweud wrthyf i fy hun mai pwyll pia hi ac o fewn chydig eiliadau roeddwn i yn sbrintio at lle roeddwn i yn cael neidio ar gefn y beic. O fewn 30 eiliad roedd y rheol gyntaf y cymal beics yn dod i’r golwg, ac roedd yn rhaid neidio oddi ar y beic er mwyn croesi’r rheilffordd a wedyn neidio nôl ymlaen ac yn syth i fyny rhiw mwya’r cwrs, rhiw Dewi Sant. Ar ôl tua munud a hanner roeddwn wedi cyrraedd y top ac i lawr a fi ar y bars triathlon i drio osgoi y gwynt. Aeth y 49 munud a 55 eiliad trwy Llanaber a Llanbedr a mlaen at y man troi nôl wrth y Wayside heibio yn gyflym ac yn ddiffwdan, diolch i’r ffaith mod i’n gryf ar y beic, ac yn llwyddo i ddal a phasio lot fawr o bobol yn reit aml, tan i rywun dalu'r pwyth yn ôl a fy mhasio i!! Roedd yr amser yn ddigon da i ddod yn 13eg ar y beic. Faint bynnag oeddwn i’n trio doeddwn i ddim yn gallu cadw efo fo, a seiclodd oddi wrtha i’n weddol gyflym!! Roeddwn o fewn milltir i’r diwedd a dyma yna gar yn tynnu allan i’r ffordd a gyrru ar tua 20 milltir yr awr o mlaen i, er mod i wedi bod yn mynd y llawer yn gynt na hynny. Nôl i lawr rhiw Dewi Sant a gorfod gwylio fy nghyflymder am fod yr heddlu yn y gwaelod efo gynnau cyflymder yn barod i dorri pobl oedd yn mynd dros 30milltir yr awr allan o’r gystadleuaeth.

6.5km o redeg ar dywod a tharmac oedd nesaf. Ar ôl rhedeg yn ôl i’r ‘Transition’, roeddwn yn trio fy ngorau i gael fy esgidiau rhedeg mlaen mor gyflym ag oedd yn bosib, ac oeddwn allan ar y cwrs rhedeg. Coesau fel plwm oedd y broblem am y 5 munud cyntaf wrth redeg ar hyd y twyni tywod, a lawr at lan y môr am 2.5km syth fel bwled ar hyd y tywod. Roedd y coesau wedi dechre teimlo’n well erbyn hyn ac roeddwn wedi gallu dechre agor yr ‘afterburners’ a rhedeg yn galed yr holl ffordd i’r diwedd, gan basio pobol yn gyflym fel roeddwn yn gwneud ar y beic. Ar ôl sgrialu fyny un o’r twyni, roeddwn yn gallu gweld y diwedd. Yr unig broblem oedd bod yna tua 1km o redeg ar y fflat a wedyn gorfod rhedeg i fyny i dop Harlech i orffen wrth y Castell. Ar ôl 3.44 o ddringo i fyny’r rhiw serth at y castell, croesais i'r llinell a stopio’r cloc mewn 1.22.01. Gyda’r amser am y cymal yma yn 25.07, roedd yn ddigon da i gael y 5ed amser cyflyma ar y rhedeg.

Roedd hyn yn ddigon da i fi gael ail yn y categori 20-29, y Bachgen lleol cyntaf a 7fed allan o bawb. Yn amlwg, roeddwn yn hapus iawn efo’r canlyniad.

Hefyd wedi cael diwrnod llwyddiannus oedd y tîm o’r enw ‘Tom Jones’ sef Bedwyr Fychan, Owain Fychan a Tom Jones a orffennodd yn gyntaf allan o'r holl dimau oedd wedi cymryd rhan.